Rhiannon by Gwenallt
(David James Jones)
Fe sefi di, Riannon, o hyd wrth dy esgynfaen,
 gwaed yr ellast a’i chenawon ar dy wyneb a’th wallt,
Ac yno yn Arberth drwy’r oesoedd ymhob rhyw dywydd
Y buost yn adrodd dy gyfranc ac yn goddef dy benyd hallt.
Fe gariest ar dy gefn y gwestai a’r pellennig,
Gweision gwladwriaeth estron a gwŷr dy lys dy hun,
Sachiedau o lo a gefeiliau o ddur ac alcam,
Pynnau o flawd a gwenith. Ni wrthododd yr un.
Y mae’r gwŷr a’th gâr yn magu dy blentyn eurwallt,
Yn gwybod mai gwir dy gyfranc ac annheg dy sarhad,
A phan olchir gwaed yr ellast a’i chenawon o’th wyneb,
Cei dy blentyn, Pryderi, i’th gôl ac i orsedd dy wlad.
Translation of Rhiannon
Still you stand, Rhiannon, beside your horse-block
With blood of the bitch and her pups on your face and your hair,
In Arberth, through the ages, and in all weathers
You told your tale and bore your penance there.
You carried on your back the guests and strangers
From foreign lands, men of your own court too,
Sacks of coal and pincers of steel and tin,
Packs of flour and wheat. No-one said no.
Those who love you are rearing your golden-haired child
Knowing your tale is true and unfair your shame,
And when you wash the blood of the bitch and her pups from your face
Your child Pryderi will come to your bosom, your land and its throne.